Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2016

Amser: 08.30 - 09.02
 


Preifat

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AC (Cadeirydd)

Jane Hutt AC

Simon Thomas AC

Paul Davies AC

Mark Reckless AC

Staff y Pwyllgor:

Aled Elwyn Jones (Clerc)

Eraill yn bresennol

Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Peter Greening, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Adolygodd y Pwyllgor y cofnodion a chytunodd ar y fersiwn i’w chyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefnu busnes -  y Pwyllgor Busnes

Busnes yr wythnos hon

 

Dydd Mawrth

 

 

 

 

 

 

Dydd Mercher

 

 

 

Trefn busnes

 

 

Dydd Mercher 22 Mehefin 2016 -

Cynnig enwau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau (5 munud)

</AI3>

<AI4>

4       Pwyllgorau

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i benodi aelodau a chadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro er mwyn i’r Cynulliad gytuno arno ar 15 Mehefin a chytunwyd y dylid cynnig enw David Melding (Ceidwadwyr) fel cadeirydd y pwyllgor.

</AI4>

<AI5>

5       Amserlen y gyllideb

Nododd y Pwyllgor lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn dweud wrth y Rheolwyr Busnes ei fod yn bwriadu cyflwyno'r cynnig cyllideb atodol cyntaf ar 21 Mehefin a  chynnig y cynnig ar 12 Gorffennaf. Byddai hynny’n rhoi tair wythnos i un o bwyllgorau’r Cynulliad graffu ar y cynnig. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig ar enwau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau ar 22 Mehefin fel y gellir sefydlu pwyllgor i ystyried y Gyllideb Atodol. 

</AI5>

<AI6>

Unrhyw Fusnes Arall

Roedd y Llywydd yn awyddus i’r swyddogion sicrhau y bydd y broses o amserlennu busnes yn addas yn y dyfodol er mwyn cynnwys penderfyniadau y bydd y Pwyllgor Busnes yn debygol o’u gwneud mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen. 

 

Holodd Simon Thomas am fwriad y Llywodraeth i gyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru. Dywedodd Jane Hutt wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor yn cyfarfod yr wythnos nesaf.

</AI6>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>